Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Environment and Sustainability Committee

 

 

 

 

 

Emyr Roberts

Prif Weithredwr

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

 

 

 

6 Mawrth 2015

 

Annwyl Emyr

Gwahoddiad i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd 6 Mai

Hoffai'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd eich gwahodd chi a Peter Matthews i ddod ger ein bron yn ein cyfarfod ar 6 Mai at 2015.

Pwrpas y sesiwn fydd trafod gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2013.  Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar iawn pe gallech gyflwyno papur dwyieithog cyn y sesiwn yn amlinellu'r materion allweddol a'r cynnydd a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru ers ei sefydlu, a byddem yn croesawu'r wybodaeth ganlynol yn arbennig:

Y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol

§  Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun diswyddo gwirfoddol, gan gynnwys nifer y staff sydd wedi manteisio ar y cynllun a chyfanswm y gost hyd yn hyn.

 

Cynllun Busnes

 

§  Crynodeb o berfformiad y corff yng nghyd-destun Cynllun Busnes 2014-15, gan gynnwys yr adroddiad perfformiad diweddaraf ar y dangosfwrdd corfforaethol;

§  Copi o Gynllun Busnes 2015-16, os yw ar gael.

 

Trwyddedau

 

§  Y diweddaraf ar nifer y trwyddedau y mae'r corff wedi eu dosbarthu i'w hun yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

Hunan-blismona

 

§  Crynodeb o unrhyw gamau gorfodaeth neu gamau hunan-blismona y mae'r corff wedi eu cymryd yn erbyn ei hun yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

Rhaglenni Ariannu/Grantiau

 

§  Y wybodaeth ddiweddaraf am raglenni ariannu partneriaeth a grantiau a'r newidiadau a wnaed i hyn ers i'r corff ddechrau gweithredu.

 

Manteision o ran Cost

 

§  Y proffil diweddara ar fanteision o ran cost y corff, gan gynnwys esboniad o unrhyw newidiadau pellach a wnaed ers mis Mai 2014.

 

Y Sefyllfa Ariannol

 

§  Sefyllfa ariannol ddiweddaraf y corff.

 

Buddsoddi i Arbed

 

§  Manylion yr arian Buddsoddi i Arbed y mae'r corff wedi ei gael hyd yn hyn.

 

Byddai'n ddefnyddiol iawn i'r Pwyllgor pe gallech gyflwyno eich papur i'r Clerc erbyn dydd Mercher 22 Ebrill.  Gofynnwch i'ch swyddogion gysylltu â Chlerc y Pwyllgor os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch.

Yn gywir,

Description: P:\OPO\Committees\Committees (2011-2016)\Env & Sustainability\Correspondence\Chair's correspondence\Alun Ffred Jones sig.jpg

 

Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd